Croeso i Harrison Machinery

Mae Harrison Machinery yn fusnes deuluol wedi’i leoli yn Rhuthun, gyda dros 40 mlynedd o brofiad

Croeso i Harrison Machinery

Rydym yn fusnes deuluol a sefydlwyd yn 2009 gan Eric a Bethan Harrison. Mae gennym dros 40 mlynedd o brofiad yn y diwydiant, ac rydym yn ymfalchïo o allu cynnig cyfoeth o wybodaeth a phrofiad, ynghyd â’r lefelau uchaf o ofal cwsmer.

Rydym yn cyd-weithio gyda gwneuthurwyr o’r safon uchaf, megis Krone, Teagle, Marshall, Lely, Herbst, Maschio, Opico a Bomford ac yn sicrhau bod y cynnyrch a gynnigir yn bodloni anghenion y cwsmer. Gydag amrywiaeth eang o frandiau, gallwn gynnig peiriannau ar gyfer porthiant, trin y tir, garddwriaeth a pheiriannau cynnal a chadw ar ochr y ffordd. Rydym hefyd yn gwasanaethu a thrwsio peiriannau, gan ddefnyddio darnau/ partiau dilys. Gallwn wneud hyn ar gyfer amrywiaeth o wneuthurwyr eraill yn ychwanegol i’r rhestr uchod, yn ogystal â chwblhau gwaith yswiriant ac ymdrin â  thractorau. Gallwn gynnig gwaith atgyweirio hydrolig a gwasanaethau weldio, ac mae gennym ystod eang o beiriannau ail law ar ein buarth trwy gydol y flwyddyn. Rhan mawr arall o’r busnes yw darparu peiriannau garddwriaethol megis Countax, Ariens a Echo ac rydym yn cynnig yr un gwasanaethau a chefnogaeth ar gyfer ein cwsmeriaid yn yr adran hon.

Os ydych yn chwilio am ddelwriaeth gyda gwahaniaeth, cysylltwch â ni heddiw am fwy o wybodaeth!

We sell a huge selection of new and second hand agricultural and horticultural machinery along with parts and supplies. Call in to our showroom anytime, or click on the supplier logos below to view the full range that we have access to!

Agricultural
Machinery
Horticultural
Machinery
Fencing, Hardware & Shop Items

Our Suppliers