Croeso i Harrison Machinery

Rydym yn fusnes deuluol sydd wedi’i leoli yn Rhuthun, gogledd Cymru. Sefydlwyd y busnes yn 2009 gan Eric a Bethan Harrison, ac mae gennym dros 40 mlynedd o brofiad yn y byd amaethyddol gan ddarparu gwasanaeth o safon uchel i’n cwsmeriaid. Gallwn gynnig amrywiaeth o gyflenwadau amaethyddol a garddwriaethol ar draws gogledd Cymru, gan gefnogi cynifer o gwmnïau Prydeinig ag y gallwn. Hyd yma, rydym yn cydweithio â Teagle, Marshall, Bomford, Countax, Ritchie, Browns a Tornado.

Rydym yn ymfalchïo yn ein gallu i gynnig y lefelau uchaf o wasanaeth i’n cwsmeriaid, a gydag un alwad ffôn gallwn ddarparu cefnogaeth a chymorth parhaus.

Cymerwch olwg ar ein tudalen Cynnyrch, neu cysylltwch â ni heddiw i drafod eich gofynion.